Rhaglen Ymarfer Ystafell Ffitrwydd

Ble bynnag rydych chi ar eich taith ffitrwydd, mae ein campfa yn cynnwys amrywiaeth o offer addas i'ch anghenion. Mae slotiau ar gael i’w bwcio felly fydd hi byth yn or-lawn.  Cliciwch 'Sesiwn Campfa’ i weld mwy.

Nofio

Mae modd cadw slotiau nofio ‘ffitrwydd’ sef nofio lôn neu ‘pawb’ sef nofio rhydd.  Fel arfer, mae sesiynau’n awr o hyd ac ar gael ar Ap Better UK neu ar-lein.  Cliciwch 'Nofio' i weld mwy.

Dosbarthiadau Ffitrwydd

Mae dosbarthiadau ar gyfer y gymuned gyfan, o ddosbarthiadau dawns neu gardio egniol i gryfder, hyfforddi, meddwl, a chorff.  Mae rhywbeth at ddant pawb. Mae amserlenni sesiynau ffitrwydd a slotiau amser ar gael drwy'r ap Better UK neu drwy glicio 'Bwcio Gweithgaredd' ar frig y dudalen. Cliciwch ‘Dosbarthiadau Ffitrwydd’ i weld mwy.

Gwersi Nofio

Gwersi nofio i blant gydag Ysgol Nofio Better i ddysgu’r sgil bywyd pwysig yma.  Mae rhaglen Ysgol Nofio Better yn canolbwyntio ar set o gyflawniadau seiliedig ar sgiliau a phellter.  Mae rhywbeth i bob lefel gyda Better, gyda gwersi i blant ac oedolion.  Cliciwch "Gwersi a Chyrsiau" uchod i weld mwy.

Hyfforddi personol

P'un a ydych chi'n ddefnyddiwr campfa profiadol neu heb fod mewn campfa erioed o'r blaen gall hyfforddwr personol eich helpu i'ch cadw'n atebol i gyrraedd eich nodau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â hyfforddiant personol YOUR sy'n darparu hyfforddwyr personol ar draws ein holl gampfeydd Better gyda REPS lefel 3 fan leiaf. Cliciwch ar 'Hyfforddiant Personol' i ddysgu mwy.

Campfa Iau

Mae Campfa Iau i blant 11 i 15 oed yn llesol i’r meddwl a’r corff. Mae hefyd yn lle diogel i gwrdd â ffrindiau newydd. Bydd hyfforddwr cymwys ym mhob sesiwn, a rhaid i bob plentyn wneud sesiwn sefydlu. Campfa Iau yw’r lle i blant yn eu harddegau ymarfer corff.  Cliciwch ‘Campfa Iau’ i weld mwy neu ‘Bwcio Gweithgaredd’

Sboncen

Mae Better yn gweithio mewn partneriaeth â Sboncen Lloegr i sicrhau bod sboncen yn cael ei chyflwyno i'r safon uchaf ar draws ein canolfannau hamdden. Mae'r sesiynau'n hygyrch a phan fyddwch eu heisiau.  Beth am logi cwrt sboncen neu ymuno â chynghrair sboncen yn eich canolfan hamdden leol? Neu wersi sboncen i feistroli’r gêm ddifyr ac egnïol yma. Cliciwch 'Sboncen' i weld mwy.

Badminton

Ewch i brofi buddion meddyliol, corfforol a chymdeithasol badminton mewn canolfan Better lleol. Llogwch gwrt, ymunwch â chynghrair neu dysgwch sut i chwarae. Mae Better yn cynnig badminton ‘No Strings’ mewn rhai canolfannau hamdden ar draws y DU mewn partneriaeth â Badminton Lloegr. Cliciwch 'Badminton' i weld mwy.

Gymnasteg

A oes gan eich plentyn ddiddordeb mewn gymnasteg? Bydd gymnasteg yn helpu i wella ystwythder, cydbwysedd, symudiadau a mwy mewn lle cynnes a chroesawgar.  Byddan nhw hefyd yn dysgu sgiliau sylfaenol, a fydd yn helpu gyda chwaraeon a gweithgareddau eraill. Mae hyfforddwyr cymwysedig yn arwain ein cyrsiau Gymnasteg ac maen nhw’n addas i bob oed a gallu. Cliciwch 'Gymnasteg’ i weld mwy.

Rhaglen Healthwise

Rhaglen gweithgareddau corfforol yw Healthwise i bobl sydd â chyflwr iechyd neu sydd eisiau cymorth. Mae meini prawf yn amrywio yn ôl ble rydych chi yn y DU. Cliciwch 'Healthwise' i weld mwy.

Rhowch gynnig arni

Os ydych chi’n newydd i ffitrwydd ac rydych chi eisiau arweiniad, dyma raglen chwe wythnos o gymorth gyda’ch hyfforddwr eich hun. Ar ôl gwirio eich iechyd byddwn ni’n cyfeirio chi at amryw opsiynau. Ar ôl y chwe wythnos, dylech chi deimlo'n hyderus i ddewis pa un o'r gweithgareddau yr hoffech barhaud i’w wneud sy’n cyd-fynd â’ch amserlen orau. Cliciwch 'Rhowch gynnig arni' i weld mwy.

Pêl-fasged

Chwaraewch bêl-fasged mewn canolfan hamdden Better lleol. Cadwch gwrt i chwarae gyda ffrindiau neu ymunwch â chynghrair lleol.  Os ydych yn newydd i'r gamp, mae gwersi ar gael gan hyfforddwr cymwysedig.  Mae cwrs a hyfforddwr i bob gallu. Cliciwch ar 'Pêl-fasged' i weld mwy.

Partion Pen-blwydd

Dathlwch barti pen-blwydd eich plentyn mewn canolfan hamdden Better lleol. O bartïon nofio a phêl-droed i barc trampolîn a phartïon pêl-droed, mae amrywiaeth o weithgareddau i siwtio'ch plant. Peidiwch â phoeni - byddwn yn eich helpu i drefnu a gallwch chi fwynhau’r diwrnod.  Cliciwch 'Partïon Pen-blwydd' i weld mwy.

Pêl-droed

Mae dewis o gaeau pêl-droed ar gael yn ein canolfannau hamdden. Mae’n cynnwys gwahanol wynebau megis 3G, Astroturf, dan do, glaswellt, a tharmac. Gallwch chi hyfforddi, chwarae gyda ffrindiau neu ymuno â chynghrair. Cliciwch 'Pêl-droed' i weld mwy.

Rhaglen Iechyd

Mae Good Boost yn rhaglen adsefydlu hwyl a llesol i bobl â phob math o broblemau iechyd.  Mae therapi dŵr neu adsefydlu dŵr yn addas ar gyfer sawl cyflwr sy’n effeithio ar y cyhyrau a’r esgyrn.

Gweithgareddau Gwyliau

Ydych chi’n chwilio am bethau i’w gwneud gyda’r plant dros y gwyliau? O ysgol nofio i bêl-droed a thenis, mae amrywiaeth o gyrsiau a gweithgareddau gwyliau i'w cadw nhw’n brysur ac yn symud.

Bowlio dan do

Dewch i roi cynnig ar fowlio dan do. Dyma weithgaredd i bob oedran a gallu. Gallwch chi gwrdd â phobl newydd neu ddal i fyny am eich wythnos. Cliciwch 'bowlio dan do' i weld mwy.

Gweithgareddau Plant

Beth bynnag fo'ch oedran neu lefel eich gallu, bydd ein hystod eang o weithgareddau, gwersi neu gyrsiau ar gael yn eich Canolfan Hamdden Better leol. Dewch i weld beth sydd ar gael sy’n berffaith i chi. Y nod bob amser yw cael hwyl wrth ddysgu sgiliau newydd.  Cliciwch ‘Gweithgareddau i Blant’ i weld mwy.

Chwarae Meddal

Mae chwarae meddal yn rhoi amser i blant bach ymlacio, chwarae â ffrindiau newydd, ac yn bwysicaf oll mwynhau! Beth am gael lle ar sesiwn chwarae meddal yn eich canolfan hamdden leol i’ch plant bach heddiw.  Cliciwch 'Chwarae Meddal' i weld mwy.