COLLI PWYSAU A THEIMLO’N WYCH

A ydych wedi bod yn bwriadu colli ychydig o fodfeddi, cynyddu eich lefel ffitrwydd neu dynhau eich cyhyrau, ond ddim yn teimlo bod y gampfa yn addas i chi?

A ydych chi eisiau bod yn fwy actif a chael hwyl wrth wneud? Os felly, mae’n bosibl y bydd y swît Innerva newydd yn Better, Canolfan Hamdden Llanisien yn berffaith i chi.

Sut mae’n gweithio?

Mae ein swît newydd yn defnyddio offer ymarfer corff a gynorthwyir gan bŵer. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi ddibynnu ar eich cyhyrau yn unig er mwyn i’r ymarfer fod yn effeithiol.

Mae pob peiriant yn targedu grwpiau cyhyrau gwahanol.  Dylech dreulio ychydig amser ar bob peiriant ac ymhen 30 munud yn unig byddwch yn dechrau teimlo’r effaith. Byddwch yn gweithio gyda’r peiriannau, nid yn eu herbyn! Nid oes angen unrhyw ddillad arbennig, dewch yn eich dillad arferol a dechreuwch wella eich siâp!

Inch Loss at Toning Suite Llanishen Leisure Centre, Cardiff

BUDDION IECHYD

Rehabilitation through exercise at Better Llanishen Leisure Centre

Mae Canolfan Hamdden Llanisien Better yn falch o gyhoeddi y bydd ganddi Fyrddau a Chadeiriau Tynhau Innerva. Yn wahanol i offer ymarfer corff traddodiadol, nid yw ystod o offer ymarfer corff Shapemaster yn dibynnu’n unig ar gryfder cyhyrau ond ar system bŵer electronig sy’n eich galluogi i weithio’n oddefol neu’n weithredol, yn dibynnu ar eich gallu. Mae’r offer yn berffaith ar gyfer y rheiny sydd yn dymuno:

  • Colli pwysau
  • Adfer siâp
  • Gwella symudedd
  • Tynhau’r cyhyrau
  • Gwella cryfder

Gan nad oes angen i chi greu’r grym symud, nid oes angen i chi drechu diffyg egni er mwyn defnyddio’r offer, felly mae'n ddewis perffaith i unrhyw un ailgydio mewn ymarfer corff ar ôl cyfnodau o seibiant neu ddiffyg gweithgarwch, Gan gynnwys yr henoed neu’r rheiny â phroblemau symudedd.

Os ydych yn cael eich dychryn gan amgylchedd campfa draddodiadol neu’n teimlo’n anghyfforddus ynddi, lleolir y 12 darn offer tynhau i ffwrdd o’r brif gampfa felly mae’n berffaith i chi ymlacio a mynd ar eich cyflymder eich hun.

Y 12 darn o offer tynhau sydd ar gael yw Penolau a Boliau, Corff Uchaf a Chluniau, Pen y Cluniau, Pwlofer Ystum, Crensiad y Bola, Lleihau’r Canol, Pwlofer Abdomen, Bron a Choesau, Beic Traws, Dringwr ar eich Eistedd, Camwr Plyg i'r Ochr, Dip Cyhyryn Triphen a Chwrl Coes.

Gellir hefyd ddefnyddio’r offer i reoli ac adfer y bobl hynny sy’n byw gyda chyflyrau megis MS, Fibromyalgia ac yn dilyn Strôc.

AELODAETH - DEWISIADAU

Ymaelodwch ag ystafell tynhau cyhyrau Innerva yn Better, Canolfan Hamdden Llanisien  am ddim ond £29.50 y mis.

Bydd hyn yn golygu y cewch ddefnyddio cymaint ag yr hoffech ar yr ystafell hon Better, Canolfan Hamdden Llanisien.

Mae aelodaeth gonsesiynol hefyd ar gael yn amodol ar feini prawf cymhwyso.

 

YMAELODWCH NAWR